Ynglŷn â Gwasanaethau Iechyd Dechrau’n Deg Caerdydd
Nod Gwasanaeth Iechyd Dechrau’n Deg yw eich cefnogi gyda rhianta a rhoi unrhyw gymorth a chyngor y mae arnoch eu hangen, o’r cyfnod cyn geni hyd at 3 blwydd ac 11 mis oed.
Gellir darparu cymorth a chefnogaeth ar ystod o faterion a allai effeithio arnoch chi a’ch teulu. Mae’r rhain yn cynnwys gofalu am eich babi newydd, bwydo, diddyfnu, arferion cysgu, hyfforddi i ddefnyddio’r poti a materion ymddygiad. Hefyd gallwn ni eich cyfeirio neu eich atgyfeirio at asiantaethau eraill o fewn Dechrau’n Deg a’r tu allan iddo os oes angen.