Beth yw Aros a Chwarae?
Mae sesiynau Aros a Chwarae yn gyfle i rieni gael hwyl yn chwarae â’u plant mewn lle diogel a chyfeillgar – does dim angen ymyriad, gall rhieni ddod i unrhyw un o’r sesiynau Aros a Chwarae mewn unrhyw ardal Dechrau’n Deg.
Cynhelir y sesiynau hyn yn lleoliadau Dechrau’n Deg a neuaddau cymunedol lleol, a gall teuluoedd Dechrau’n Deg fanteisio arnynt. Mae staff profiadol, cymwys yn cynnig ystod o weithgareddau i chi gymryd rhan ynddynt gyda’ch plentyn, gan ddysgu am bob maes datblygu.
Byddwch yn chwarae, canu, dawnsio neu’n darllen â’ch plant ac yn eich tretio’ch hunain drwy dreulio amser â’ch gilydd.
Dewch â’ch babi neu’ch plentyn bach gyda chi, ymunwch â’r hwyl a mwynhewch gyfle i gwrdd â rhieni eraill. Rhannwch syniadau a dysgwch ffyrdd newydd o chwarae, gan ddefnyddio adnoddau sy’n rhad neu am ddim.
Mae gan nifer o’r lleoliadau ardaloedd chwarae awyr agored, ac o bryd i’w gilydd caiff gweithgareddau fel ymweliad â’r parc, y traeth a llefydd o ddiddordeb yn lleol eu trefnu fel y gallwn grwydro gyda’n gilydd.
Caiff teuluoedd sy’n mynychu’r sesiynau gyfle i fynd i’r Rhaglen Datblygu Rhieni – sydd â crèche am ddim – yn ogystal â chael gwybodaeth am brojectau eraill Dechrau’n Deg a gwasanaethau lleol.
Dyfyniadau gan rieni
‘Rwy’n cael syniadau chwarae; galla i gymysgu â mamau eraill a mwynhau gweld fy mab yn cael hwyl’
‘Cymysgodd fy mhlentyn â phlant eraill, a chwarae’n flêr a chefais ddigon o syniadau/ysbrydoliaeth am chwarae gartref’
‘Rwyf wedi cael budd ohono, ac mae gen i dawelwch meddwl pan aiff i’r feithrinfa. Rwy’n gwybod y bydd hi’n dod ymlaen â’r plant eraill a’i bod yn dda am wneud ffrindiau a rhannu’
‘Mae’r staff mor gyfeillgar a chroesawgar, maen nhw wedi rhoi’r hyder i mi dod i ddod ac i ymuno â grwpiau eraill’