Y Tîm Lleferydd ac Iaith

Un o nodau craidd project Dechrau’n Deg yw cefnogi datblygiad iaith a chyfathrebu plant.

Mae llawer o dystiolaeth fod targedu a nodi plant sy’n cael anawsterau mor gynnar â phosibl yn bwysig iawn. Yn ogystal ag ymchwil i ddatblygiad yr ymennydd, sydd wedi dangos bod tair blynedd gyntaf bywyd plentyn yn hanfodol i ddatblygu sgiliau iaith a chyfathrebu da.

Yn ardaloedd Dechrau’n Deg caiff plant a allai fod yn cael anawsterau lleferydd a/neu iaith eu nodi mor fuan â phosibl er mwyn i’r tîm allu rhoi’r cymorth mwyaf priodol mor fuan â phosibl.

Beth yw gwaith y Tîm Lleferydd ac Iaith?

Rhoi cymorth cyfathrebu cyffredinol i bob plentyn.

Sicrhau bod aelodau eraill o dîm Dechrau’n Deg yn gallu nodi a chefnogi anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant.

Rhoi strategaethau penodol ac ymarferol i rieni/gofalwyr i ddatblygu iaith plant drwy chwarae.

Rhoi hyfforddiant a chymorth i ddarparwyr gofal plant i’w helpu i nodi pryderon ynghylch lleferydd ac iaith ac i ddatblygu eu sgiliau gan ddefnyddio strategaethau penodol ac ymarferol i greu amgylchedd dysgu iaith.

Datblygu gwasanaeth a fydd yn darparu rhaglen unigol a arweinir gan anghenion i blant y mae pryderon iaith, lleferydd neu gyfathrebu amdanynt.