Gwasanaethau Rhianta

Parents and their children

Amdanom Gwasanaethau Rhianta Dechrau’n Deg

Cymaint â mae bod yn rhiant yn gallu rhoi llawenydd a hapus rwydd i chi, gall fod yn heriol hefyd ar brydiau. Nod Gwasanaethau Rhianta Dechrau’n Deg  Caerdydd yw gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i wella hyder a sgiliau rhianta, cryfhau perthnasoedd a meithrin llesiant a gwdycnwch.

Trwy rianta’n gadarnhaol a meithrin perthnasoedd ystyrlon, gall rhieni helpu i fagu plantiach, datblygu cartref sy’n ddigynnwrfa heddychlon, gydallai o ddadleuon a gwrthdaro. Dywed ymchwil wrthym ni fod plant sy’n tyfu i fyny gyda rhianta cadarnhaol yn fwy tebygol o:

  • Wneud yn well yn yr ysgol
  • Cael gwell perthnasoedd gyda gaelodau o’r teulu a ffrindiau
  • Bodâ mwy o hunan-barcha hyder
  • Bodâ llaio broblemau ymddygiadol
  • Gallu rheoli eu hemosiynau’n well

Bydd Dechrau’n Deg Caerdydd yn gweithio gyda’ch teulu yn unigol neu mewn grŵp gyda theuluoedd eraill. Gall rhai rhaglenni weithio’n unigol gyda chi yn eich cartref neu mewn man cyfarfod lleol. Caiff grwpiau eu cynnalledled Caerdydd mewn lleoliadaufel ysgolion a hybiau. Nod y tîm yw sicrhau bod y rhain yn amgylcheddau deniadol a chroesawgar ac yn hygyrch i bawb. Mae’r tîmyn hapus i weithio gydag ysgolion a lleoliadau cymunedol yn eich ardal. Fel arfer, cynhelir y grwpiau ynystod y tymor. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch gallu cyrchu lleoliad, siarad â ni. Rydym yn hapus i wneud addasiadau i ddiwallu eich anghenion.

Mae ein holl raglenni grŵp yn cael eu harwain gan aelodau tîm Dechrau’n Deg Ceardydd sydd wedi’u hyfforddi’n llawn yn ein holl raglenni ac maent yn brofiadol mewn gweithio gyda rhieni, plant a phobl ifanc. O fewn grwpiau
bydd rhieni/gofalwyr eraill. Os ydym yn weithio gyda chi’n unigol yn eich cartref neu’n y gymuned, byddwch yn gweithio gyda gunneu ddau aelod o’n tîm.

Llebynnagy bo modd, rydym yn darparu crèche ar y safle i blant o dan 8 oed. Mae’r rhain yn cael eu staffio gan staff cymwys ac maent hefyd yn cael eu hariannu’n llawn (dim cost i chi). Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cysylltu â ni ymlaen llawi gadw’ch lle. Osoes gennych fabi yn mynychu’r crèche ac yr hoffech chi fwydo ar y fron yn ystod y grŵp, gallwn eich cefnogi.

Mae diodydd a byrbrydau iach ar gael.

Cymorth Rhianta Un i Un

Rhieni a Mwy

Yn tîm dan arweiniad Seicolegydd  Addysg, yn darparu cymorth rhianta unigol yn y cartref neu mewn lleoliadau cymunedol. Mae gan ein tîm gyfoeth o brofiad yn gweithio gyda rhieni/gofalwyr, plant a phobl ifanc. Mae gan y Seicolegwyr yn ein tîm ddiddordeb yn y ffordd y mae plant a phobl ifanc yn meddwl, teimlo, ymddwyn a datblygu. Rydym yn derbyn goruchwyliaeth a hyfforddiant parhaus gan y seicolegwyr i sicrhau bod ein gwaith yn cael eilywido gan theori ac ymchwil seicolegol.

Darganfod mwy ar grasanaeth rhieni.

Grwpiau i fynychu gyda fy mhlentyn

Aros a Chwarae

Mae Aros a Chwarae yn gyfle i rieni/gofalwyrddod at ei gilydd a threulio amser yn chwarae gyda’ch plant. Gallfod yn hyfryd chwarae gyda’ch gilydd yn eich cartref eich hun, a gall Aros a Chwarae ychwanegu at hynny drwy gynnig lle i chi ddod at eich gilydd lle nad oes rhaid i chi boeni am dacluso wedyn. Gall rhieni fwynhau chwarae hefyd!

Darganfod mwy ar Aros a Chwarae.

Mae Eich Babi’n Anhygoel

Grŵp bach, clos, sy’n cael ei gynnal dros 4 wythnos i rieni/gofalwyr a’u babi – cyfle gwych i gael gwybod pa mor anhygoel yw eich babi!
Dros y 4 wythnos, byddwch chi a’ch babi yn trin y pynciau canlynol:

  • Helo cariad
  • Bondio wyneb yn wyneb â’ch babi
  • Tyrd i chwarae gyda mi
  • Cân gân i mi/Dweud stori wrtha i

Siaradwyr Bach, Fforwyr Bach

6 wythnos o sesiynau llawn hwyl i rieni/gofalwyr â phlant bach hyd at bedair oed. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i roicyngor defnyddiol i chi i gefnogi datblygiad eich plentyn drwy weithgareddau ymarferol, hwyl, synhwyraidd ybyddwch chi’n eu rhannu gyda’ch gilydd. Dros y 6 wythnos, byddwch chi
a’ch plentyn yn mwynhau:

  • Gwahanol fathau o chwarae sy’n cynnwys y 5 synnwyr.
  • Pwysigrwydd caneuon a rhigymau
  • Pwysigrwydd llyfrau a straeon
  • Gall trefn fod yn hwyl
  • Chwarae Corfforol
  • Pwysigrwydd Siarad

Grwpiau i fynychu gyda meithrinfa

Rhaglen Magu Plant

Mae’r Rhaglen Magu Plant o Family Links yn credu bod plant yn rhoi boddhad, yn ysbrydoliac yn hwyl, ond gall eu gwarchodfod yn llawn straen a heriau. Mae’r Rhaglen Fagu yn helpu i ddelio gyda’r heriau hynfel y gallwch gael bywyd teulu ol tawelach a hapusach. Nodau’r Rhaglen Magu yw helpu oedolion i ddeall a rheoli eu teimladau a’u hymddygiad a bod yn fwy cadarnhaol a meithringar yn eu perthynas â’u plant a’i gilydd. Mae’nannog agwedd at berthnasau sy’n rhoi i blantac oedolion dechrau emosiynol iach yn eu bywydau a’u dysgu.

Dros y 10 wythnos byddwch yn edrych ar bynciau’n cynnwys:

  • Deall pam mae plant yn ymddwyn yn y ffordd maen nhw’n ymddwyn
  • Adnabod y teimladau y tu ôl i ymddygiadau (ein rhai ni a’u rhai nhw)
  • Ystyried dulliau gwahanol o ddisgyblaethu
  • Dod o hyd i ffyrdd o ddatblygu cydweithrediad a hunanddisgyblaeth ymysg plant
  • Pwysigrwydd edrych ofaluam ein hunain

Darganfod mwy ar rhaglen magu i rhieni.

GroBrain

  • GroBrain yw grŵp i rhieni sy’n disgwyl babi neu rhieni sydd â baban hyd at 12 mis oed.
  • Mae GroBrain yn archwilio ochr emosiynol orianta, bondio a datblygiad
    yr ymennydd.

Chwarae Plant

Cwrs 8 wythnos ar gyfer rhieni/gofalwyr plant rhwng 18 mis a 4 blwydd oed yn llawn profiadau hwyl i ddatblygu dealltwriaeth o sut mae plentyn yn dysgu ac yn datblygu drwy chwarae.

Dros yr 8 wythnos byddwch yn:

  • Deall sut mae chwarae yn cefnogi datblygiad corfforol
  • Deall sut mae chwarae yn cefnogi Llesemosiynol drwy lyfrau, straeon a
    rhigymau
  • Deall sut mae chwarae yn helpu plentyn i ddatblygu ei sgiliau meddwl.
  • Deall sut mae chwarae yn helpu plentyn i ddatblygu iaith.
  • Deall sut mae chwarae yncefnogi datblygiad lleferydd ac iaith
  • Deall sut y gall chwarae gyda phlentyn helpu i feithrin perthynas; dangos gofalac anwyldeb; a bod yn hwyl i rieni hefyd.