Ymgyrch addysgol gymunedol flynyddol flaenllaw’r Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau i Blant (gweler isod) yw Wythnos Diogelwch Plant gan godi ymwybyddiaeth o ddamweiniau difrifol ymhlith plant a sut i’w hatal, heb fod yn or-amddiffynnol ohonynt.
Mae adnoddau am ddim yr Ymddiriedolaeth yn ysgogi miloedd o weithgareddau a digwyddiadau lleol hwyl a difyr i deuluoedd ledled y DU.
Ac mae Wythnos Diogelwch Plant yn llwyddo. Y llynedd, roedd 31% o rieni’n ymwybodol o Wythnos Diogelwch Plant, sef y nifer uchaf erioed. Yn 2013, cymerodd un o bob wyth o rieni a holwyd gamau i wneud eu plant yn fwy diogel rhag damweiniau difrifol o ganlyniad i’r Wythnos.
Yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau i Blant
Yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau i Blant (CAPT) yw prif elusen y DU ym maes atal nifer y plant a phobl ifanc sy’n cael eu lladd, eu gwneud yn anabl, neu sy’n cael eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau.
Mae’n bodoli am fod damweiniau yn un o’r prif achosion o farwolaeth ac anafiadau difrifol ymhlith plant a phobl ifanc – ac am fod modd atal llawer o’r damweiniau hyn.
Mae am i blant fyw bywydau actif ac iach – nid cael eu hamddiffyn yn ormodol. Mae angen i blant arbrofi, chwarae a chymryd risg. Ond mae angen cydbwysedd. Nid yw unrhyw riant am i’w blentyn fod yn anabl neu gael ei ladd mewn damwain yr oedd modd ei hosgoi.
Mae’n helpu pobl a sefydliadau i ddeall y risgiau gwirioneddol i ddiogelwch plant. Ac i’w helpu i ennill sgiliau wrth reoli’r risgiau hynny, fel y gall teuluoedd a chymunedau helpu i atal plant a phobl ifanc rhag cael eu hanafu’n ddifrifol.