Hysbysiad Preifatrwydd Dechrau’n Deg Caerdydd
Mae Dechrau’n Deg Caerdydd yn wasanaeth a ddarperir gan Gyngor Caerdydd ar y cyd â’n sefydliadau partner. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn ar gyfer cwsmeriaid Dechrau’n Deg Caerdydd a’i nod yw rhoi gwybodaeth i chi am sut rydyn ni’n prosesu gwybodaeth.
Prosesir yr holl ddata personol yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.
Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd â phlant dan 4 oed mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru.
Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys
- Gofal plant rhan amser o ansawdd uchel wedi’i ariannu (12.5 awr yr wythnos) i blant 2-3 oed
- Gwasanaeth ymweliadau iechyd manylach
- Mynediad at gymorth rhianta
- Cymorth i ddatblygu Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
Pa ddata personol rydyn ni’n ei gasglu amdanoch chi a pham?
Rydyn ni’n casglu’r data personol canlynol:
- Gwybodaeth adnabod fel eich enw llawn ac enw llawn eich plentyn
- Manylion megis dyddiad geni eich plentyn neu’r dyddiad geni disgwyliedig
- Manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad y cartref, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost
- Rhifau unigryw, megis rhif GIG yr unigolyn
Mae’r data Categori Arbennig rydyn ni’n ei gasglu yn cynnwys:
- Hil/tarddiad ethnig
- Credoau crefyddol
- Gwybodaeth iechyd corfforol a/neu iechyd meddwl, megis gwybodaeth sy’n ymwneud â datblygiad gwybyddol ac emosiynol
- Gwybodaeth ddemograffig, a all gynnwys gwybodaeth am aelodau o’r teulu a’r ardal y maent yn byw ynddi, lle bo angen hynny ar wasanaeth perthnasol
- Rhywedd
- Gwybodaeth ariannol lle bo’n berthnasol
- Unrhyw wybodaeth arall sy’n angenrheidiol ar gyfer darparu gwasanaethau Dechrau’n Deg
Cesglir yr wybodaeth hon er mwyn rhoi cymorth perthnasol i deuluoedd cymwys sydd wedi cytuno i gymryd rhan yn y rhaglen.
Os ydych chi wedi rhoi data personol i ni am unigolion eraill, megis aelodau’r teulu neu bobl ddibynnol, sicrhewch fod yr unigolion hynny yn gwybod am y wybodaeth yn yr hysbysiad hwn.
Sut y byddwn ni’n defnyddio’ch data personol
Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i:
- Gysylltu â chi ynghylch darparu gwasanaethau sy’n dod o dan Dechrau’n Deg. Mae hyn yn cynnwys trefniadau gofal plant a gwasanaethau cymorth fel cymorth rhianta a/neu gymorth gydag anghenion dysgu ychwanegol
- Cynnal atgyfeiriadau at sefydliadau partner a fydd yn darparu’r gwasanaeth cymorth sydd ei angen
- Cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol fel Awdurdod Lleol
- At ddibenion ymchwil ystadegol ac adrodd, er mwyn gwella’r modd y darperir ein gwasanaethau yn y dyfodol (yn yr achos hwn bydd eich data’n ddienw)
Sefydliadau y byddwn ni’n rhannu eich data personol â nhw
Bydd eich data personol yn cael ei rannu â’n sefydliadau partner, sy’n rhan o’r Rhaglen Dechrau’n Deg. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu er mwyn darparu gwasanaethau cymorth ac mae’n cynnwys:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro
- Llywodraeth Cymru
- Lleoliadau Gofal Plant dan Gontract a Chofrestredig
- Cymorth i Fenywod
- RISE
- Llamau
- Ysgol eich plentyn
- Adrannau eraill y Cyngor megis Addysg a Gwasanaethau Plant – lle mae’r wybodaeth yn hanfodol ac yn ofynnol ar gyfer eu gwaith.
Ym mhob achos, byddwn ni ond yn rhannu data i’r graddau y credwn fod angen y wybodaeth yn rhesymol at y dibenion hyn.
Pa mor hir rydyn ni’n cadw eich data personol
Byddwn ni ond yn cadw eich data personol cyn hired ag sydd angen er mwyn cyflawni’r dibenion y cafodd ei gasglu atynt ac am gyfnod rydyn ni’n ei ystyried yn angenrheidiol i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y byddwn ni’n eu cael, oni bai y dewiswn gadw eich data am gyfnod hirach i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar Amserlen Gadw’r Cyngor
Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data personol
Dyma ein seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol:
- Tasg Gyhoeddus – Byddwn ni’n prosesu eich data personol i gwblhau tasg er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol sydd gennym fel corff cyhoeddus
- Buddiant Allweddol i Fywyd – Er mwyn diogelu buddiannau hanfodol gwrthrych y data neu fod dynol arall os bydd argyfwng neu lle mae pryderon diogelu yn codi
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data categori arbennig yw Erthygl 9.2 ar gyfer categori arbennig
(g) mae angen prosesu am resymau sydd o fudd sylweddol i’r cyhoedd
Mae Atodlen 1 Rhan 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018 yn amlinellu’r amodau sylweddol o ran budd y cyhoedd ar gyfer prosesu data categori arbennig. Mae paragraff 6 yn ymdrin yn benodol â dibenion statudol a llywodraethol
Mae paragraff 8 o Atodlen 1 Rhan 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018 yn ymdrin â phrosesu data categori arbennig ar gyfer triniaeth neu gyfle cyfartal.
Mae Dechrau’n Deg wedi cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru fel strategaeth i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru. Nod y rhaglen Dechrau’n Deg yw mynd i’r afael â’r gwahaniaethau a nodwyd a chreu mwy o gyfle cyfartal ymhlith unigolion o ardaloedd y nodwyd eu bod yn ddifreintiedig yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010. Un o’r ffyrdd y mae’n gwneud hyn yw trwy ddarparu gofal plant am ddim i deuluoedd o ardaloedd y nodwyd eu bod yn ddifreintiedig ac wrth ganiatáu cyfle cyfartal.
Eich hawliau
Hoffai Cyngor Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:
Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd am gopïau o’ch data personol.
Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gwblhau’r wybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.
Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd ddileu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu i Gyngor Caerdydd brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd drosglwyddo’r data rydyn ni wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.
Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech chi arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost: HawliauUnigolion@caerdydd.gov.uk
Ffoniwch ni ar: 029 2087 3911
Hysbysiadau Preifatrwydd Eraill
I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Caerdydd yn prosesu data personol, gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd llawn yma: Hysbysiad Preifatrwydd
Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro https://bipcaf.gig.cymru/use-of-site/privacy-policy/
Llamau https://www.llamau.org.uk/Pages/FAQs/Category/privacy-policy
Llywodraeth Cymru Dechrau’n Deg: hysbysiad preifatrwydd | LLYW.CYMRU
Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
Mae Cyngor Caerdydd yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 31 Mawrth 2025.
Cysylltu â Diogelu Data
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am brosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol
Os hoffech chi gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Dechrau’n Deg Caerdydd wedi mynd i’r afael â’ch pryder yn foddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ei wefan Gwneud cwyn | ICO neu drwy ffonio 0303 123 1113.