Croeso i Dechrau’n Deg Caerdydd

Yn darpau help ychwangenol i gael plant i ddechrau gorau mewn bywyd.

Dilynwch ni ar Facebook

A ydych yn gymwys?

Oes gennych chi blentyn rhwng 0 a 3 blwydd ac 11 mis oed ac yn byw yng Nghaerdydd?

Os felly cysylltwch â ni i weld os ydych yn gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg.

Beth rydyn ni’n ei wneud yn Dechrau’n Deg Caerdydd

Y gwasanaethau a gynigiwn yn Dechrau’n Deg

Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd Estynedig

Nod Gwasanaeth Iechyd Dechrau’n Deg yw eich cefnogi chi gyda rhianta a rhoi unrhyw gymorth a chyngor a fydd eu hangen arnoch chi o bosibl, o’r cyfnod cynenedigol trwodd i 3 blwydd a 11 mis.

Gellir darparu cymorth a chefnogaeth ar ystod o faterion a allai effeithio arnoch chi a’ch teulu. Mae’r rhain yn cynnwys gofalu am eich babi newydd, bwydo, diddyfnu, arferion cysgu, hyfforddi i ddefnyddio’r poti a materion ymddygiad. Hefyd gallwn ni eich cyfeirio neu eich atgyfeirio at asiantaethau eraill o fewn Dechrau’n Deg ac y tu allan iddo os bydd angen.

Mae tîm Iechyd Dechrau’n Deg Caerdydd yn cynnwys

  • Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd
  • Gwasanaeth Gweinyddesau Meithrin
  • Tîm Therapi Lleferydd ac Iaith
  • Gwasanaethau Dieteteg
  • Arbenigwyr Cymorth Bwydo ar y fron

Darganfod myw ar gwasanaeth iechyd.

Cyrchu Rhaglenni Rhianta

Llongyfarchiadau ar ddod yn rhiant!.

Yn Dechrau’n Deg Caerdydd rydym yn gwerthfawrogi rhieni, gofalwyr a theuluoedd ehangach fel addysgwyr cymaint a phwysicaf plant. Mae hyn wrth wraidd yr holl wasanaethau rydym yn eu darparu.

Mae Rhianta Caerdydd 0-18 a Rhianta Dechrau’n Deg ill dau yn rhan o Wasanaethau Rhianta Caerdydd.  Cymaint â mae bod yn riant yn gallu rhoi llawenydd a hapusrwydd i chi, gall fod yn heriol hefyd ar brydiau. Nod Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yw gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd sy’n byw yng Nghaerdydd i wella hyder a sgiliau rhianta, cryfhau perthnasoedd a meithrin llesiant a gwydnwch.

Gallwn weithio gyda chi yn unigol neu mewn sesiynau grŵp i ddarparu cymorth rhiant sy’n:

  • Cynyddu eich hyder fel rhiant, ac yn eich helpu i deimlo y gallwch ymdopi’n well mewn sefyllfaoedd sy’n achosi straen
  • Adeiladu ar eich hunanreoleiddio eich hun (sut rydych chi’n nodi ac yn rheoli eich teimladau eich hun) a sgiliau rhianta cadarnhaol i hyrwyddo datblygiad eich plant.  Mae hyn yn cynnwys sut maen nhw’n rheoli eu hemosiynau (hunanreoleiddio), chwarae gydag eraill a sut maen nhw’n teimlo amdanyn nhw eu hunain (hunan-barch), gan wneud ymddygiad yn haws i’w ddeall a’i reoli.
  • Gwella’r berthynas a’r amser rydych chi’n eu mwynhau gyda’ch gilydd, yn chwarae gyda’ch plant
  • Gwella cyfathrebu a pherthnasoedd rhwng rhieni
  • Cryfhau eich dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae a rôl bwysig rhieni ar gyfer datblygiad plant.  Mae hyn yn eich helpu i ymateb i anghenion eich plant i hyrwyddo eu dysgu, eu datblygiad a’u lles

Yn Dechrau’n Deg Caerdydd, mae ein timau Rhianta yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i deuluoedd, y gall rhieni a phlant eu mwynhau gyda’i gilydd neu y gall rhieni fynychu tra bod plant yn derbyn gofal yn ein crèche.   Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau i rieni unigol yn y cartref.   Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig:

  • Mae Eich Babi’n Anhygoel
  • Aros a Chwarae
  • Siaradwyr Bach, Fforwyr Bach
  • GroBrain
  • GroBrain i Blant Bach
  • Rhaglen Datblygu Rhieni
  • Chwarae Plant
  • Gwasanaeth a arweinir gan seicolegwyr Rhieni a Mwy

Trwy rianta’n gadarnhaol a meithrin perthnasoedd ystyrlon, gall rhieni helpu i fagu plant iach, datblygu cartref sy’n fwy digynnwrf a heddychlon, gyda llai o ddadleuon a gwrthdaro.  Dywed ymchwil wrthym ni fod plant sy’n tyfu i fyny gyda rhianta cadarnhaol yn fwy tebygol o:

  • Wneud yn well yn yr ysgol
  • Cael gwell perthnasoedd gydag aelodau o’r teulu a ffrindiau
  • Bod â mwy o hunan-barch a hyder
  • Bod â llai o broblemau ymddygiadol
  • Gallu rheoli eu hemosiynau’n well

Os oes gennych ddiddordeb yn ein Gwasanaeth Rhianta ond nad ydych yn gymwys yn Dechrau’n Deg, ewch i’n gwefan Rhianta Caerdydd.

Darganfod myw ar gwasanaethau rhianta.

Gofal plant rhan-amser o safon uchel wedi’i Ariannu’n Llawn i blant rhwng 2 a 3 oed.

Mae darparu gofal plant o ansawdd uchel i blant o 2-3 oed yn rhan ganolog o’r gwasanaethau i’w darparu o dan fenter Dechrau’n Deg. Darperir gofal plant mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Caerdydd ac mae’r Tîm Cynghori ar Ofal Plant yn gweithio’n agos gyda’r holl leoliadau i gefnogi, datblygu a monitro arfer o ansawdd.

Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu

Mae cefnogi datblygiad iaith a chyfathrebu plant yn nod graidd i brosiect Dechrau’n Deg.

Mae digon o dystiolaeth o bwysigrwydd targedu ac adnabod plant sy’n cael anawsterau mor gynnar â phosibl. Felly hefyd ymchwil i ddatblygiad yr ymennydd sydd wedi dangos bod tair blynedd gyntaf bywyd plentyn yn hanfodol i ddatblygiad sgiliau iaith a chyfathrebu da.

Mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, caiff plant sydd o bosibl yn cael anawsterau gyda lleferydd ac/neu iaith eu nodi cyn gynted ag y bo modd er mwyn i’r tîm allu ddarparu’r cymorth mwyaf priodol mor gynnar â phosibl.

Ein partneriaid

Ewch i wefannau ein partneriaid am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau ar gyfer Teuluoedd Caerdydd.